Newyddion

13th March 2020 |
Ymateb i alwad am dystiolaeth ar gyfer Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed
Rydym wedi ymateb i’r alwad gan Brif Arolygydd Ffiniau a Mewnfudo am dystiolaeth ar brofiadau Cynlluniau Ailsefydlu’r DU ar gyfer Ffoaduriaid sy’n Agored i Niwed. Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yma

13th March 2020 |
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl groesawgar i bawb sy’n chwilio am noddfa yma. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod nad dyna’r profiad i bawb. Gall ceiswyr lloches a ffoaduriaid fod yn dargedau troseddau casineb ond yn aml maent yn poeni am eu hadrodd. Gall hyn fod oherwydd profiadau gwael gydag awdurdodau yn eu …

13th March 2020 |
Gwobrwyon Lloches Cyntaf (15 Gorffennaf 2019)
Trefnodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru y Gwobrwyon Lloches Gala Cenedlaethol cyntaf mewn cydweithrediad â Chlymbiad Ffoaduriaid Cymru. Cafodd y gwobrwyon eu cyflwyno gan gyflwynwr teledu Jason Mohamed – gyda’n Hazar ni! Dathlodd y digwyddiad gyfraniadau a llwyddiannau ceiswyr lloches gydag enwebiadau o bob rhan o Gymru gan gynnwys Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam, Castell-nedd a’r Fenni. Cafodd 8 …

13th March 2020 |
Y Prif Weinidog yn cwrdd â siaradwyr cysegr
Ymunodd Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC â cheiswyr lloches a ffoaduriaid o Gymru wrth iddynt ymweld â’r Senedd i ddysgu am ddemocratiaeth yng Nghymru. Yn ogystal â chyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad, cafodd y grŵp sesiwn gyda Staff y Cynulliad i ddeall sut mae’r Cynulliad yn gweithio, cyn mynychu Sesiwn Holi’r …

13th March 2020 |
Cynrychiolydd UNHCR yn dod i Gasnewydd
Roeddem yn falch iawn o groesawu Rosella Pagliuchi-Lor, Cynrychiolydd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig i’r DU i Gasnewydd. Hwn oedd ei hymweliad cyntaf â Chymru ers dechrau ei swydd ym mis Rhagfyr 2018. Ymwelodd hi â’r nifer o brosiectau sydd wedi’u lleoli yn ein swyddfa yng Nghasnewydd gan gynnwys ein gwasanaeth Symud Ymlaen i ffoaduriaid, …

13th March 2020 |
Gwersi ESOL newydd yng Nghasnewydd
Rydym ni nawr yn cynnig gwersi Saesneg (ESOL) i geiswyr lloches ffoaduriaid sy’n byw yng Nghasnewydd yn ein swyddfa yng Nghasnewydd! Mae’r gwersi’n cael eu cynnal ar fore dydd Gwener. Nid oes angen bwcio ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n cydlynydd ESOL info@wrc.wales