


Rydym yn galluogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu bywyd newydd yng Nghymru


Cyfrannwch i gefnogi ein gwaith
Rydym angen eich help yn fwy nag erioed. Helpwch ni i adeiladu system loches decach a mwy tosturiol sy’n adlewyrchu dynoliaeth a gofal cymdeithas Prydain.
Gallai £5 ddarparu data ffôn symudol.
Gallai £10 fynd tuag at sgiliau iaith Saesneg.
Gallai £25 ariannu wythnos o sesiynau cymorth chwarae i blentyn mewn man diogel a chroesawgar.
Gallai £50 ddarparu cymorth Amddifadedd a Digartrefedd i deulu bregus.
Gallai £100 ganiatáu i 5 ffoadur gael mynediad at wasanaethau cyflogaeth, fel y gallant ailgychwyn eu gyrfaoedd, cyfrannu, a ffynnu yn eu bywydau newydd yng Nghymru.
Gallai £400 ariannu Gweithiwr Achos Arbenigol am wythnos i gyflwyno 25 o sesiynau cymorth, gan helpu pobl i lywio’r system lloches gymhleth.
Rhoi NawrBwcio apwyntiad
Rydym yn darparu apwyntiadau wyneb yn wyneb a gwasanaethau galw heibio yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, rhwng 10:00 – 13:00 a 14:00 – 15:00. Ar ddydd Gwener rydym ar agor 10:00 – 13:00 ac ar gau yn y prynhawn. Rydym ar gau ar ddydd Mercher.
Ffoniwch ni ar ein rhif rhadffôn 0808 196 7273 i fwcio apwyntiad.
Byddwch yn cyrraedd aelod o’n tîm ac os gallwn helpu, bydd un o’n gweithwyr achos profiadol yn cysylltu â chi. Os oes angen cyfieithydd arnoch, fe wnawn ni ein gorau i gael rhywun ar y ffôn.