Ni yw Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Rydym wedi bod yn galluogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid i greu dyfodol newydd yng Nghymru ers 32 mlynedd. Rydym yn darparu cymorth arbenigol uniongyrchol i’n cleientiaid o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cymunedol, gwirfoddol a statudol i greu cymdeithas lle mae parch a chydraddoldeb i bawb.

“Cyngor Ffoaduriaid Cymru yw dechrau diwedd y trawma. Dyma lle mae’r rhedeg yn stopio ac mae adferiad yn dechrau.”

Rydym yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar adegau mwyaf tyngedfennol eu bywydau. Mae ein gwaith yn galluogi pobl sydd wedi cael eu gorfodi i geisio noddfa i ganfod eu traed a dechrau adeiladu bywyd yng Nghymru. Trwy ein gwaith rydym yn helpu pobl i ddod o hyd i le i aros, gweithio i gynnal eu hunain, mynediad i wersi Saesneg, cyngor cyfreithiol a rhwydweithiau cymunedol fel bod ganddynt beth sydd ei angen arnynt i ddechrau eto yn eu cartrefi newydd.

Gweledigaeth

 

Cydweithio dros Gymru lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu croesawu, eu parchu a lle mae ganddynt fynediad at amddiffyniad, diogelwch ac urddas sy’n eu galluogi i gyfrannu a chyfranogi’n llawn at gymdeithas Gymru.

Cenhadaeth

 

Gwella bywydau ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru drwy ddarparu cymorth arbenigol a dylanwadu ar bolisi ac arferion.

Ein Gwerthoedd

 

  • Rydym yn hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Rydym yn galluogi ac yn hyrwyddo lleisiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rydym yn llais cryf, annibynnol sy’n dangos arweinyddiaeth, yn meithrin gallu ac yn gweithio ar y cyd
  • Rydym yn enghraifft o ragoriaeth sefydliadol o ran darparu gwasanaethau, datblygu staff a llywodraethu.
Ymagwedd EDI

Ein partneriaid

Ni fyddai ein gwaith hanfodol yn bosibl heb gefnogaeth ein rhoddwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid.
I gael gwybod am sut y gallwch chi neu’ch sefydliad gymryd rhan, cysylltwch â’n tîm Codi Arian ar fundraising@wrc.wales.

Donate today!

We empower asylum seekers and refugees to build new futures in Wales