Gwirfoddoli gyda ni

Rhowch eich amser

Ni allwn ni weithio heb ein gwirfoddolwyr. Maen nhw’n croesawu pobl i’n swyddfeydd, arwain ein gwersi iaith neu ddarparu cymorth cyfoedion i gyfoedion, ac maen nhw’n gwneud Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bedwar ban y byd ac mae ganddynt gefndiroedd gwahanol ac yn siarad dros 15 o ieithoedd gwahanol. Maen nhw’n cynnwys cyn-athrawon, entrepreneuriaid a newyddiadurwyr. Rydym ni’n croesawu gwirfoddolwyr o gefndiroedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn arbennig.

Mae nifer o wirfoddolwyr yn dweud bod dod i Gyngor Ffoaduriaid Cymru fel cael ail deulu.

Mae’r rolau yn cynnwys:

  • Cynorthwywyr cyfathrebu
  • Cynorthwywyr cyngor a chymorth
  • Swyddogion cwrdd a chyfarch yn y swyddfa
  • Athrawon Saesneg a Chymraeg (rhaid cael cymhwyster TESOL neu fod yn gweithio tuag ato)
  • Cynorthwywyr Datblygiad Chwarae (yn amodol ar wiriadau DBS Manylach)
Contact Us

supporting volunteers

IT skills, Practice & Language Skills

Un o feysydd allweddol ein gwaith yw cefnogi gwirfoddolwyr o gefndiroedd ffoadur i’w helpu i ehangu eu sgiliau TG, ymarfer eu sgiliau iaith, a dysgu sgiliau trosglwyddadwy eraill a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i swyddi yn y DU – yn ogystal â helpu ni gyda chymorth angenrheidiol!

Rydyn ni wastad yn awyddus i glywed gan bobl sydd am helpu. Os hoffech chi roi eich amser, cysylltwch â ni.

Os nad oes modd i chi roi eich amser, gallai rhodd ariannol wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun. Gellir rhoi yma.

Cyfrannwch Yma

Newyddion

Digwyddiad