Gwirfoddoli gyda ni
Rhowch eich amser
Ni allwn ni weithio heb ein gwirfoddolwyr. Maen nhw’n croesawu pobl i’n swyddfeydd, arwain ein gwersi iaith neu ddarparu cymorth cyfoedion i gyfoedion, ac maen nhw’n gwneud Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bedwar ban y byd ac mae ganddynt gefndiroedd gwahanol ac yn siarad dros 15 o ieithoedd gwahanol. Maen nhw’n cynnwys cyn-athrawon, entrepreneuriaid a newyddiadurwyr. Rydym ni’n croesawu gwirfoddolwyr o gefndiroedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn arbennig.
Mae nifer o wirfoddolwyr yn dweud bod dod i Gyngor Ffoaduriaid Cymru fel cael ail deulu.
Mae’r rolau yn cynnwys:
- Cynorthwywyr cyfathrebu
- Cynorthwywyr cyngor a chymorth
- Swyddogion cwrdd a chyfarch yn y swyddfa
- Athrawon Saesneg a Chymraeg (rhaid cael cymhwyster TESOL neu fod yn gweithio tuag ato)
- Cynorthwywyr Datblygiad Chwarae (yn amodol ar wiriadau DBS Manylach)
supporting volunteers
IT skills, Practice & Language Skills
Un o feysydd allweddol ein gwaith yw cefnogi gwirfoddolwyr o gefndiroedd ffoadur i’w helpu i ehangu eu sgiliau TG, ymarfer eu sgiliau iaith, a dysgu sgiliau trosglwyddadwy eraill a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i swyddi yn y DU – yn ogystal â helpu ni gyda chymorth angenrheidiol!
Rydyn ni wastad yn awyddus i glywed gan bobl sydd am helpu. Os hoffech chi roi eich amser, cysylltwch â ni.
Os nad oes modd i chi roi eich amser, gallai rhodd ariannol wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun. Gellir rhoi yma.
Cyfrannwch YmaNewyddion

11th July 2025 |
Teithiau pwyth: hanesion am berthyn yng Nghymru
Un noson wanwyn yn Abertawe, roedd sŵn tawel peiriannau gwnïo yn cymysgu â chwerthin, sgwrsio, ac ambell air o anogaeth yn Sbaeneg, Portiwgaleg a Saesneg. O amgylch bwrdd wedi’i wasgaru â ffabrig ac edau, roedd pobl o Honduras, El Salvador, Venezuela, Mecsico, Sbaen, Cymru, a thu hwnt yn gwnïo darnau o’u hunain yn gwilt ar …

11th July 2025 |
Edau perthyn: plethu hanesion mudo
Ar fore Gwener oer yng Nghymru, gorllewin Caerfyrddin i fod yn fanwl gywir, cynhaliwyd ein gweithdy treftadaeth cyntaf yn y flwyddyn newydd i ddeall sut mae mudo wedi dylanwadu ar y diwylliant Cymreig rydyn ni’n ei adnabod ac yn ei garu. Gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o wledydd a oedd yn debyg i uwchgynhadledd y Cenhedloedd …