Cronfeydd a Rhoddion
Dewch yn Ariannwr neu'n Rhoddwr
Credwn yn gryf y gallwn gyda’n gilydd wneud mwy nag y gallwn ar ein pennau ein hunain. Rydym bob amser yn chwilio am bartneriaethau newydd a chyfleoedd newydd i gynyddu ein gallu i helpu.
Gallai eich amser neu rodd ariannol fod yr eiliad ddiffiniol ym mywyd rhywun – y gwahaniaeth rhwng digartrefedd, amddifadedd a chamfanteisio neu help llaw i adeiladu dyfodol mwy disglair.
Trwy weithio mewn partneriaeth â ni, gallwch ein helpu i barhau i adeiladu ar ein profiad yn gweithio i gael pobl allan o argyfwng ac i mewn i le y gallwn ddathlu eu cyflawniadau a’u cyfraniadau i fywyd yng Nghymru.
Credwn fod pawb yn haeddu gallu cyflawni eu potensial llawn.
DonateYmddiriedolaethau a Grantiau
Ar gyfer Ymddiriedolaethau a Grantwyr
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i greu dyfodol newydd yng Nghymru am 30 mlynedd.
Heb gymorth sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol, ni fyddai modd i ni ddarparu nifer o’r prosiectau a gwasanaethau hanfodol mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid Cymru yn dibynnu arnynt.
Rydyn ni am greu perthnasau gyda phobl eraill sy’n rhannu ein gweledigaeth ac sydd am gefnogi pobl yn ystod un o’r adegau mwyaf difrifol yn eu bywydau.
Os hoffech chi drafod gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac archwilio cyfleoedd i gydweithredu, cysylltwch â’n tîm codi arian.
Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni greu dyfodol lle bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gallu dechrau creu bywydau newydd yng Nghymru.

RHODD HEDDIW
Rydym yn grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru
Newyddion

13th March 2020 |
Ymateb i alwad am dystiolaeth ar gyfer Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed
Rydym wedi ymateb i’r alwad gan Brif Arolygydd Ffiniau a Mewnfudo am dystiolaeth ar brofiadau Cynlluniau Ailsefydlu’r DU ar gyfer Ffoaduriaid sy’n Agored i Niwed. Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yma

13th March 2020 |
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl groesawgar i bawb sy’n chwilio am noddfa yma. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod nad dyna’r profiad i bawb. Gall ceiswyr lloches a ffoaduriaid fod yn dargedau troseddau casineb ond yn aml maent yn poeni am eu hadrodd. Gall hyn fod oherwydd profiadau gwael gydag awdurdodau yn eu …