Creu dyfodol
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru ers 30 mlynedd. Rydym yn darparu cefnogaeth arbenigol uniongyrchol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy ein canolfannau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Rydym yn gweithio’n helaeth gydag ystod o bartneriaid cymunedol, gwirfoddol a statudol ac yn ymdrechu i gyfrannu at greu cymdeithas lle mae parch a chydraddoldeb i bawb o’r pwys mwyaf a lle mae hawliau dynol yn cael eu mwynhau.
Rydym yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar adegau mwyaf hanfodol eu bywydau. Gall ein gwaith wneud gwahaniaeth rhwng unigolion sydd â hawliad lloches a wrthodwyd yn cwympo tuag at amddifadedd, problemau iechyd heb ei drin, a digartrefedd – neu gall ein gwaith greu dyfodol amgen lle maen nhw’n dod o hyd i’w draed a dechrau adeiladu bywyd yng Nghymru diolch i well sgiliau iaith, mynediad at fudd-daliadau, cymorth cyfreithiol, a chymorth arall y mae ganddynt hawl iddo.
Gweledigaeth
Cydweithio ar gyfer Cymru lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu croesawu, eu parchu a chael mynediad at amddiffyniad, diogelwch ac urddas sy’n eu galluogi i gyfrannu a chymryd rhan lawn yng nghymdeithas Cymru.
Bwriad
Gwella bywydau ceiswyr lloches a ffoaduriaid Cymru drwy ddarparu cymorth arbenigol a dylanwadu polisïau ac arferion.
Gwerthoedd
- Rydym yn hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Rydym yn grymuso ac yn hyrwyddo lleisiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Rydym yn llais cryf, annibynnol sy’n dangos arweinyddiaeth, yn meithrin gallu ac yn gweithio ar y cyd
Rydym yn enghraifft o ragoriaeth sefydliadol wrth ddarparu gwasanaethau, datblygu staff a llywodraethu
