Hanes Romy

Roeddwn i’n athro am 25 mlynedd ac rydw i wedi gweithio gyda channoedd o blant a phobl ifanc. Ysbrydolwyd y newid mewn cyfeiriad i mi weithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru gan weld lluniau yn y cyfryngau o blant mewn parthau rhyfel. Roedd eu rhieni yn wynebu dewis amhosib: mentro aros yn eu gwlad tarddiad lle oedd bywydau eu plant mewn perygl neu wneud taith a allai fod yn farwol i ddianc. Mae’n codi dychryn arnaf fod polisïau gwledydd Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n anodd mynd mewn yn ddiogel ac yn gyfreithiol.

Penderfynais fy mod i am chwarae rhan wrth wneud Cymru yn Genedl Noddfa a Chaerdydd yn Ddinas Noddfa, felly gwnes i gais i wirfoddoli’n rhan-amser yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru ochr yn ochr â fy ngwaith fel ysgrifennwr ac athro. O’r dechrau, roeddwn i wrth fy modd â chynhesrwydd ac amrywiaeth teulu Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Pan ddaeth swydd wag i weithio’n llawn-amser, gwnes i’r naid heb edrych yn ôl. Fel Derbynnydd Gwiriwr Brysbennu, rwy’n cwrdd â phawb sy’n dod i mewn i’r swyddfa yng Nghaerdydd. Ar ein diwrnod prysuraf eleni gwelsom ni 42 o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ogystal â dosbarth ESOL llawn. Mae gan bob cleient hanes unigryw ei hun, felly rydw i wastad yn dysgu. Mae brysbennu yn golygu blaenoriaethu ac nid yw hynny’n hawdd pan fod cymaint o gleientiaid angen help, ond rydyn ni’n hyblyg, ac rydym yn gwneud beth bynnag a allwn. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac rydw i wrth fy modd â hynny.