Hanes Mustafa
Gadewais Syria oherwydd y blynyddoedd o ryfela. Yn ddyn ifanc, cefais wybod gan bobl o ddwy ochr y gwrthdaro bod rhaid i mi ymuno â’r rhyfel. Dewisais beidio â gwneud hynny, ac o ganlyniad i aros yn niwtral, roedd pob ochr y gwrthdaro yn meddwl fy mod yn cefnogi’r llall, gan roi fy mywyd mewn perygl.
Nid yw pobl – ceiswyr lloches – yn teimlo’n ddiogel yn eu gwlad eu hunain.
Aethom yn ôl i weld a allwn barhau â’n bywyd yn ein gwlad, dim ond i golli rhai aelodau o’r teulu oherwydd amodau byw anniogel yn fy nghartref, a’r rhyfel wrth gwrs.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn dda iawn i mi a cheiswyr lloches a ffoaduriaid eraill. Maen nhw’n fy helpu i ymdopi â heriau’r system loches; rwy’n mynd i’w swyddfa yng Nghaerdydd bob dydd i fynychu gwersi ESOL. Maen nhw’n grŵp gwych o bobl ac maen nhw’n gofalu amdanon ni.
Rwy’n dymuno i bawb gefnogi Cyngor Ffoaduriaid Cymru oherwydd ei bod yn bwysig i ni fyw bywyd o ddiogelwch. Pan ddown ni at Gyngor Ffoaduriaid Cymru, rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n cael y cymorth sydd ei angen arnom i sicrhau ein bod ni’n teimlo’n ddiogel ac yn gallu bwrw ymlaen â’r bywyd a gollwyd gennym yn ein gwlad.
Rhoddodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru gyfle i mi siarad â Phrif Weinidog Cymru pan ymwelon ni â’r Senedd. Fe wnaeth fy annog ac rwy’n teimlo’n falch o gael y cyfle i ddweud diolch i Lywodraeth Cymru am wneud i geiswyr lloches deimlo’n ddiogel i ddechrau eto.