Hanes Alia

Gadawodd Alia ei mamwlad yn Albania yn 2014 a daethpwyd â hi i’r DU gan fasnachwyr, gan ei bod hi wedi ffoi o briodas dan orfod, a drefnwyd gan ei thad. Ar ôl cyrraedd, cyfarfu â 2 ddyn a wnaeth ei chloi mewn ystafell a’i gorfodi i weithio fel putain.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd gymorth i ddianc ond fe syrthiodd yn feichiog ac yn y pen draw aethpwyd â hi i’r Swyddfa Gartref lle hawliodd hi loches.

Ar ôl penderfyniad negyddol gan y Swyddfa Gartref nad oedd yn credu ei bod hi wedi dioddef masnachu pobl, cefnogon ni Alia trwy adolygiad barnwrol.

Gweithiodd ein tîm gyda’i chynrychiolwyr cyfreithiol i hwyluso’r defnydd o arbenigwyr i ddatblygu’r datganiad tyst sydd ei angen ar gyfer yr adolygiad. Gwnaed cais brys i’r Swyddfa Gartref i ailystyried y penderfyniad a chytunodd y Swyddfa Gartref fod Alia wedi dioddef masnachu pobl a bod angen ei hamddiffyn.

Rhoddwyd caniatâd i Alia aros. Fe’i cefnogwyd gan ein tîm Symud Ymlaen i ddod o hyd i lety diogel iddi hi a’i phlentyn fel y gallant adeiladu eu bywydau newydd fel teulu yng Nghymru.

Yn anffodus, nid yw achos Alia yn unigryw. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn cefnogi ein cleientiaid i apelio yn erbyn penderfyniadau. Ond nid yw ein gwaith yn cael ei ariannu’n llawn, ac mae’n anodd i ni ateb y galw.

 

Gallwch chi helpu rhywun fel Alia trwy gyfrannu heddiw.