1990
Sefydlwyd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yr un diwrnod y cerddodd Nelson Mandela allan o'r carchar. Roedd y sylfaenwyr yn grŵp o ffoaduriaid, gwleidyddion, cynrychiolwyr o'r cymunedau ffoaduriaid, sefydliadau gwirfoddol a chyrff statudol.
"Fe wnaethon ni oedi'r lansiad i fod yn dyst i'r foment hanesyddol hon pan gerddodd Nelson Mandela yn rhydd. Roedd yn deimladwy iawn yn enwedig i'r rhai ohonom a ddioddefodd dros ein hawliau dynol."

1992
Cawsom grant gan y Swyddfa Gartref o £30,000 i sefydlu'r gwasanaethau cymorth lloches cyntaf yng Nghymru, wedi'u lleoli yng Nghaerdydd.

1996
Dirymodd Deddf Mewnfudo a Lloches 1996 hawliau ceiswyr lloches i gael mynediad at fudd-daliadau tai a lles prif ffrwd. O ganlyniad, lansiwyd ein prosiect cyntaf i fynd i'r afael ag amddifadedd ymhlith ceiswyr lloches, y Prosiect Darpariaeth Brys.

2000
Fe dyfon ni'n gyflym ac erbyn y flwyddyn 2000 roedd gennym ni swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Roeddem yn darparu cyngor a chymorth i geiswyr lloches yn cyrraedd Cymru o dan y polisi gwasgaru. Roedd hyn yn golygu bod ceiswyr lloches yn cael eu hanfon i amrywiol drefi a dinasoedd ledled y DU ar sail dim dewis.
Trwy roddion gan y cyhoedd, fe wnaethom sefydlu'r Gronfa Caledi gyntaf; gan wneud taliadau brys bach i'r niferoedd cynyddol o bobl amddifad a oedd yn ceisio ein help.

2004
Yn seiliedig ar ymchwil yr Athro Vaughan Robinson ar Dai Ffoaduriaid yng Nghymru, lansiwyd ein Prosiect Symud Ymlaen, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i ffoaduriaid sy'n trawsnewid o gefnogaeth y Swyddfa Gartref i dai annibynnol.

2014
Roedd newidiadau yn null y Swyddfa Gartref o ddarparu cyngor a chefnogaeth i geiswyr lloches yn golygu bod rhaid i ni roi'r gorau i ddarparu ein gwasanaeth cymorth cyflawn i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru roeddem yn gallu ail-ganolbwyntio ein hymdrechion ar 2 faes:
- Eiriolaeth a dylanwadu;
- Parhau â'n gwaith hanfodol i atal digartrefedd ymysg ffoaduriaid trwy ein gwasanaeth Symud Ymlaen

2016
Dyfarnwyd contractau inni o dan Gynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed Syria i groesawu a chefnogi teuluoedd o Syria i sawl Awdurdod Lleol yng Nghymru.

2017
Lansiwyd ein Rhaglen Hawliau Lloches a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i alluogi ceiswyr lloches i ddeall a hawlio eu hawliau. Arweiniwyd y prosiect gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru mewn partneriaeth ag Asylum Justice, BAWSO, Displaced People in Action, EYST, City of Sanctuary a TGP Cymru.

2018
Cynhalion ni yr hyn rydyn ni'n credu yw rhaglen gelf gyntaf Cymru i gael ei gynnal gan artistiaid sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gyflwyno 124 o weithdai ledled Cymru.
Gwnaethom daliadau caledi o £9,570 diolch i roddion.
Dechreuon ni raglen o ymweliadau chwarterol gan grwpiau o geiswyr lloches a ffoaduriaid â'r Senedd i gwrdd ag Aelodau'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru a dysgu mwy am wleidyddiaeth yng Nghymru.
Darparon ni weithdai Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yn ardal Gwent i'w helpu i ddeall yn well sut i nodi ac adrodd am drosedd casineb.

2019
Cynhalion ni Wobrwyon Lloches cyntaf Cymru, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Chlymbiad Ffoaduriaid Cymru. Dathlodd y seremoni gyfranogiad a gwaith caled ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru.
Roedd Tachwedd 2019 yn nodi diwedd oes. Ymddeolodd ein Prif Weithredwr a chyn-ffoadur, Salah Mohammed, ar ôl 29 mlynedd o wasanaeth i'r achos.

2020
Rydyn ni am barhau gyda’n gwaith hanfodol o helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid greu dyfodol newydd yng Nghymru.
Gellir darllen rhagor am y gwasanaethau newid bywyd a gynigwn yma.
