Teithiau pwyth: hanesion am berthyn yng Nghymru
Un noson wanwyn yn Abertawe, roedd sŵn tawel peiriannau gwnïo yn cymysgu â chwerthin, sgwrsio, ac ambell air o anogaeth yn Sbaeneg, Portiwgaleg a Saesneg. O amgylch bwrdd wedi’i wasgaru â ffabrig ac edau, roedd pobl o Honduras, El Salvador, Venezuela, Mecsico, Sbaen, Cymru, a thu hwnt yn gwnïo darnau o’u hunain yn gwilt ar y cyd. Gyda’i gilydd fe greon nhw dapestri nid o liw, ac o hunaniaeth a chof.
Ar y gweithdy, cydweithion ni ag ILA-Wales (Iberiaid ac Americanwyr Ladin yng Nghymru), grŵp cymunedol sydd wedi tyfu’n gyson ers 2019. Dechreuodd fel rhwydwaith bach o 20 o bobl o wyth gwlad, ac mae nawr yn grŵp llewyrchus o dros 200 o aelodau. I lawer ohonyn nhw, Cymru yw eu cartref newydd. Mae’n nhe wedi cyrraedd yma i weithio, caru, astudio, neu mewn rhai achosion, allan o angenrheidrwydd.
Nid yw mudo o America Ladin ac Iberia i Gymru yn beth newydd, ond yn aml nid yw’n cael ei drafod. Daeth rhai ar ôl blynyddoedd o ansefydlogrwydd adref. Ffodd eraill rhag trais, llygredd, neu gwymp economaidd. Mae argyfwng gwleidyddol Venezuela, y trais gangiau mewn rhannau o Ganol America, ac anghydraddoldebau hirhoedlog mewn gwledydd fel Brasil a Colombia wedi gwthio pobl i chwilio am ddiogelwch a chyfle mewn mannau eraill. Mae Sbaen a Phortiwgal, a fu unwaith yn gyrchfannau eu hunain, wedi gweld allfudo cynyddol yn dilyn dirwasgiadau economaidd. Mae llawer o’r bobl hynny, yn eu tro, wedi dod o hyd i’w ffordd i’r DU, ac yn eu tro i Gymru.
Dalila, dylunydd ffasiwn o Fecsico, oedd yn arwain y gweithdy gydag amynedd a chynhesrwydd. Arweiniodd bobl drwy wnïo baneri eu gwledydd, gan eu helpu i greu rhywbeth a oedd yn adlewyrchu o ble ddaethon nhw a ble maen nhw nawr. Roedd rhai wedi defnyddio peiriannau gwnïo o’r blaen. Roedd eraill yn dysgu am y tro cyntaf, ychydig yn ansicr ar y dechrau, ond yn dod o hyd i rythm yn gyflym. Daeth y baneri at ei gilydd darn wrth ddarn ac mae gan bob sgwâr stori.
Mae tecstilau wedi’u gwehyddu’n ddwfn i fywyd America Ladin. Mewn llawer o ranbarthau, nid crefft yn unig yw gwnïo, ond ffordd o gadw diwylliant a goroesi caledi. Ers cenedlaethau, mae pobl wedi gwnïo yn eu bywydau bob dydd i greu gwisgoedd ysgol, eitemau cartref, neu ddillad traddodiadol. Mewn gwersylloedd ffoaduriaid, trefi ar y ffin, a fflatiau yn y ddinas, mae gwnïo yn parhau i gynnig ymdeimlad o bwrpas a ffordd o lynu wrth adref.
Ond y tu hwnt i’r grefft, roedd rhywbeth arall yn digwydd y noson honno. Siaradodd pobl. Rhannon nhw eu rhesymau dros ddod nhw i Gymru. Siaradon nhw am golli cartref, dysgu ieithoedd newydd, dod o hyd i waith, dechrau o’r newydd. Siaradodd rhai yn dawel am y trawma a adawon nhw. Eraill am lawenydd magu plant mewn lle sy’n teimlo’n ddiogel iddynt.
Dywedodd un cyfranogwr nad oedd hi wedi siarad ei hiaith frodorol ers wythnosau. Dywedodd un arall mai dyma’r tro cyntaf ers misoedd iddi deimlo ei bod hi’n cael ei gweld. Myfyriodd cyfranogwr o Gymru nad oedd hi’n gwybod llawer o gwbl am fywydau ei chymdogion tan y diwrnod hwnnw. Nid oedd unrhyw berfformiad: dim ond pobl, gyda’i gilydd, yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
Mae’r clytwaith terfynol, wedi’i wnïo gan lawer o ddwylo, yn fwy na darn o gelf. Mae’n atgof tawel o beth yw Cymru mewn gwirionedd: lle wedi’i lunio gan symudiad, croeso, a hanesion dirifedi’r rhai sydd wedi cyrraedd, ymgartrefu, a chyfrannu.
Ewch i’n tudalen we am ragor o wybodaeth am y prosiect Llunio Cenhedloedd a digwyddiadau sydd i ddod.