News

13th March 2020 |
Hanes Khyaliben
Ffodd Khyaliben o India a hawlio lloches wedi hynny oherwydd nad oedd y dyn y syrthiodd mewn cariad ag ef yn y DU yn cael ei groesawu gan ei theulu gan ei fod o genedligrwydd a ffydd wahanol.

13th March 2020 |
Hanes Okot
Roedd Okot yn ffoadur yn byw yn Wrecsam. Roedd yn ddioddefwr o fasnachu pobl ac yn byw ar ei ben ei hun.

13th March 2020 |
Hanes Alia
Gadawodd Alia ei mamwlad yn Albania yn 2014 a daethpwyd â hi i’r DU gan fasnachwyr, gan ei bod hi wedi ffoi o briodas dan orfod, a drefnwyd gan ei thad. Ar ôl cyrraedd, cyfarfu â 2 ddyn a wnaeth ei chloi mewn ystafell a'i gorfodi i weithio fel putain.

13th March 2020 |
Hanes Romy
Roeddwn i’n athro am 25 mlynedd ac rydw i wedi gweithio gyda channoedd o blant a phobl ifanc. Ysbrydolwyd y newid mewn cyfeiriad i mi weithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru gan weld lluniau yn y cyfryngau o blant mewn parthau rhyfel. Roedd eu rhieni yn wynebu dewis amhosib: mentro aros yn eu gwlad tarddiad lle oedd bywydau eu plant mewn perygl neu wneud taith a allai fod yn farwol i ddianc. Mae’n codi dychryn arnaf fod polisïau gwledydd Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n anodd mynd mewn yn ddiogel ac yn gyfreithiol.

13th March 2020 |
Hanes Mustafa
Gadewais Syria oherwydd y blynyddoedd o ryfela. Yn ddyn ifanc, cefais wybod gan bobl o ddwy ochr y gwrthdaro bod rhaid i mi ymuno â'r rhyfel. Dewisais beidio â gwneud hynny, ac o ganlyniad i aros yn niwtral, roedd pob ochr y gwrthdaro yn meddwl fy mod yn cefnogi’r llall, gan roi fy mywyd mewn perygl.