Cymorth Argyfwng Ukraine
Rydym wedi cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer Wcráin. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol Cymru a rhanddeiliaid cymunedol i gefnogi ffoaduriaid o Wcrain.
Sut allwn ni helpu:
- Gwneud cais am Gyfrif Banc
- Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, Budd-daliadau Plant a Chredyd Pensiwn
- Gwersi ESOL
- Cyngor ar Gyflogaeth ac Addysg
- Trwyddedau Preswylio Biometrig a gollwyd
- Gwneud apwyntiadau i drafod eich opsiynau Tai
- Eich helpu i chwilio am lety rhent preifat
- Cysylltu â landlordiaid ac Opsiynau Tai a gwneud yr holl waith papur
- Gwneud atgyfeiriad at weithiwr cefnogi tenantiaeth
- Cofrestru plant mewn ysgolion lleol
- Cofrestru gyda GP
Ein tîm arbenigol ar gyfer yr Wcrain:
- Rheolwr Wcrain: Lina Liu – ll@wrc.wales
- Gweithiwr Achos: Vladyslava Zhmuro – vz@wrc.wales
- Gweithiwr Achos: Fayrouz Hakam – fayrouz.hakam@wrc.wales
- Cydlynydd Trydydd Sector Wcrain – mickell.lindsay-finnikin@wrc.wales
Bwcio apwyntiad
Rydym yn darparu apwyntiadau wyneb yn wyneb a gwasanaethau galw heibio yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, rhwng 10:00 – 13:00 a 14:00 – 15:00. Ar ddydd Gwener rydym ar agor 10:00 – 13:00 ac ar gau yn y prynhawn. Rydym ar gau ar ddydd Mercher.
Ffoniwch ni ar ein rhif rhadffôn 0808 196 7273 i fwcio apwyntiad.
Byddwch yn cyrraedd aelod o’n tîm ac os gallwn helpu, bydd un o’n gweithwyr achos profiadol yn cysylltu â chi. Os oes angen cyfieithydd arnoch, fe wnawn ni ein gorau i gael rhywun ar y ffôn.