Gwirfoddoli gyda ni
Rhowch eich amser
Ni allwn ni weithio heb ein gwirfoddolwyr. Maen nhw’n croesawu pobl i’n swyddfeydd, arwain ein gwersi iaith neu ddarparu cymorth cyfoedion i gyfoedion, ac maen nhw’n gwneud Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bedwar ban y byd ac mae ganddynt gefndiroedd gwahanol ac yn siarad dros 15 o ieithoedd gwahanol. Maen nhw’n cynnwys cyn-athrawon, entrepreneuriaid a newyddiadurwyr. Rydym ni’n croesawu gwirfoddolwyr o gefndiroedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn arbennig.
Mae nifer o wirfoddolwyr yn dweud bod dod i Gyngor Ffoaduriaid Cymru fel cael ail deulu.
Mae’r rolau yn cynnwys:
- Cynorthwywyr cyfathrebu
- Cynorthwywyr cyngor a chymorth
- Swyddogion cwrdd a chyfarch yn y swyddfa
- Athrawon Saesneg a Chymraeg (rhaid cael cymhwyster TESOL neu fod yn gweithio tuag ato)
- Cynorthwywyr Datblygiad Chwarae (yn amodol ar wiriadau DBS Manylach)
supporting volunteers
IT skills, Practice & Language Skills
Un o feysydd allweddol ein gwaith yw cefnogi gwirfoddolwyr o gefndiroedd ffoadur i’w helpu i ehangu eu sgiliau TG, ymarfer eu sgiliau iaith, a dysgu sgiliau trosglwyddadwy eraill a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i swyddi yn y DU – yn ogystal â helpu ni gyda chymorth angenrheidiol!
Rydyn ni wastad yn awyddus i glywed gan bobl sydd am helpu. Os hoffech chi roi eich amser, cysylltwch â ni.
Os nad oes modd i chi roi eich amser, gallai rhodd ariannol wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun. Gellir rhoi yma.
Cyfrannwch YmaNewyddion
24th September 2024 |
Blas o’r Wcráin
Cawsom y fraint o fod yn Abertawe ddydd Sadwrn 24 Awst ar gyfer Diwrnod Annibyniaeth Wcráin. Ymgasglodd dros gant o bobl yn Lle Dewi Sant i ddathlu pen-blwydd Україна yn 33 oed. Cyngor Ffoaduriaid Cymru oedd un o brif noddwyr y digwyddiad hwn a drefnwyd gan Sunflowers Wales, grŵp cymunedol sy’n cael ei redeg gan …
12th September 2024 |
Beth mae mudo yn ei olygu i chi?
Mae gennym ni gymaint o atgofion o Wythnos Ffoaduriaid eleni. Mae’n un o wythnosau mwyaf llawen y flwyddyn, a doedd gŵyl gelfyddydol eleni ddim yn wahanol. Buom yn dawnsio, yn canu ac yn siarad â’n gilydd i ddathlu creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa. Roedd y dathliadau eleni yn enwedig yn felys wrth i …