Beth mae mudo yn ei olygu i chi?

Mae gennym ni gymaint o atgofion o Wythnos Ffoaduriaid eleni. Mae’n un o wythnosau mwyaf llawen y flwyddyn, a doedd gŵyl gelfyddydol eleni ddim yn wahanol. Buom yn dawnsio, yn canu ac yn siarad â’n gilydd i ddathlu creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa.

Roedd y dathliadau eleni yn enwedig yn felys wrth i ni gynnal ein gweithdy celfyddydol cyntaf i gyd am straeon mudo. Fel rhan o brosiect newydd sbon, byddwn yn teithio o amgylch Cymru i ddathlu ein hanes cyffredin a chlywed beth mae mudo yn ei olygu i ni gyd. Mae’n gyfle i annog pobl i adrodd eu straeon eu hunain ac i gynnig dewis amgen I  naratifau sy’n trin ffoaduriaid fel dioddefwyr neu ddihirod.

Ein arhosfan cyntaf gyda’r prosiect cyffrous hwn oedd Hyb Canolog Caerdydd. Artist gweledol a bardd yw Alix Edwards a arweiniodd ein gweithdy celfyddydol yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid. Gyda gofal a charedigrwydd, perodd Alix y grŵp i rannu beth mae mudo yn ei olygu i bob aelod. Llefarodd hi barddoniaeth tra bod ein grŵp ni’n myfyrio ar y lle sydd gan fudo mewn Cymru y gorffennol a Chymru’r presennol. Buan y rhoddodd yr hyn a ddechreuodd fel cynfas papur gwag fywyd i syniadau a theimladau’r grŵp. Trwy baent, sialc, plu, rhuban, a gliter – llawer o gliter – gweithiodd yr unigolion hyn gyda’i gilydd i greu rhywbeth hudolus.

Ni allwn aros i fynd â’r murlun hwn gyda ni wrth i ni deithio o amgylch Cymru gyda’r prosiect hwn. Neu i weld beth mae eraill yn ei greu ar y thema hon o ‘Beth mae mudo yn ei olygu i chi’.

Diolch i Alix Edwards am arwain y gweithdy ysbrydoledig hwn ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud y prosiect hwn yn bosibl.