Cymorth Argyfwng Ukraine

Rydym wedi cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer Wcráin. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol Cymru a rhanddeiliaid cymunedol i gefnogi ffoaduriaid o Wcrain.

Sut allwn ni helpu:

 

  • Gwneud cais am Gyfrif Banc
  • Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, Budd-daliadau Plant a Chredyd Pensiwn
  • Gwersi ESOL
  • Cyngor ar Gyflogaeth ac Addysg
  • Trwyddedau Preswylio Biometrig a gollwyd
  • Gwneud apwyntiadau i drafod eich opsiynau Tai
  • Eich helpu i chwilio am lety rhent preifat
  • Cysylltu â landlordiaid ac Opsiynau Tai a gwneud yr holl waith papur
  • Gwneud atgyfeiriad at weithiwr cefnogi tenantiaeth
  • Cofrestru plant mewn ysgolion lleol
  • Cofrestru gyda GP

Ein tîm arbenigol ar gyfer yr Wcrain:

 

 

 

 

 

 

  • Rheolwr Wcrain: Lina Liu – ll@wrc.wales
  • Gweithiwr Achos: Vladyslava Zhmuro – vz@wrc.wales
  • Gweithiwr Achos: Fayrouz Hakam – fayrouz.hakam@wrc.wales
  • Cydlynydd Trydydd Sector Wcrain – mickell.lindsay-finnikin@wrc.wales

Bwcio apwyntiad

Rydym yn darparu apwyntiadau wyneb yn wyneb a gwasanaethau galw heibio yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, rhwng 10:00 – 13:00 a 14:00 – 15:00. Ar ddydd Gwener rydym ar agor 10:00 – 13:00 ac ar gau yn y prynhawn. Rydym ar gau ar ddydd Mercher.

Ffoniwch ni ar ein rhif rhadffôn 0808 196 7273 i fwcio apwyntiad.

Byddwch yn cyrraedd aelod o’n tîm ac os gallwn helpu, bydd un o’n gweithwyr achos profiadol yn cysylltu â chi. Os oes angen cyfieithydd arnoch, fe wnawn ni ein gorau i gael rhywun ar y ffôn.