Gwobrwyon Lloches Cyntaf (15 Gorffennaf 2019)
Trefnodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru y Gwobrwyon Lloches Gala Cenedlaethol cyntaf mewn cydweithrediad â Chlymbiad Ffoaduriaid Cymru.
Cafodd y gwobrwyon eu cyflwyno gan gyflwynwr teledu Jason Mohamed – gyda’n Hazar ni!
Dathlodd y digwyddiad gyfraniadau a llwyddiannau ceiswyr lloches gydag enwebiadau o bob rhan o Gymru gan gynnwys Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam, Castell-nedd a’r Fenni.
Cafodd 8 gwobr eu cyflwyno gan gynnwys Menyw’r Flwyddyn ac Arweinydd y Dyfodol.
Gobeithiwn y bydd llawer mwy i ddilyn!